Tales of H. P. Lovecraft

wedi'i perfformio gan The Duke St Workshop & Laurence Harvey

  • Lleoliad Cinema
  • Hyd 60 mins

Mae’r cynnydd diweddar yn rhyddhau traciau sain ffilmiau wedi’i ffocysu’n bennaf ar – tra’n aml iawn o’r math ‘cwlt’ – yr amrywiaeth cyfoes. Dyma draciau sain sydd gyda digon o nostalgia i drawsblannu pobol yn ôl i’r nosweithiau hwyr yn y sinema neu’n gwylio video nasties tra’n blant.  Mae Tales of H. P Lovecraft yn rhyddhad hollol unigryw gan The Duke Street Workshop, sy’n hanu o Swydd Gaerhirfryn, sy’n brosiect hefo’r actor Laurence R. Harvey (Human Centipede II & III, The Editor), ac mae’n LP sy’n edrych ymhellach yn ôl, i archwilio o danodd sylfeini llawer iawn o arswyd cyfoes.

Mae’r albwm yn cynnwys dwy stori Lovecraft, ‘From Beyond’ a ‘The Hound’ ac maen nhw’n cael eu hadrodd dros 16 trac, traciau sy’n gwau rhwng piano fwngial a electronica sy’n udo’n iasol. Ar gyfer y cyflwyniad byw hwn, mae’r albwm yn sylfaen i archwilio ac ehangu’r deunydd er mwyn rhoi profiad uniongyrchol a deinamig.