The Beyond: The Composer's Cut

gyda chyfeiliant cerddorol byw gan Fabio Frizzi a'r F2F Band

  • Lleoliad Theatre
  • Hyd 90 mins approx.

Mae’r cyfansoddwr cerddoriaeth ffilmiau byd-enwog Fabio Frizzi a’i fand yn dychwelyd yn ôl i Aberystwyth gyda pherfformiad arbennig iawn i gofiannu am feistr arswyd, Lucio Fulci, bu farw 20 mlynedd yn ôl.

35 mlynedd ers creu ei gerddoriaeth fwyaf clodfawr, y sgôr i The Beyond, bydd Fabio Frizzi yn ail-gerdded ei gamau i greu un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol ei fywyd – toriad y cyfansoddwr. Fersiwn newydd i glasur cwlt – wedi’i ehangu, adfywio a’i wireddu drwy ddegawdau o feistrolaeth ychwanegol.

Bydd The Frizzi 2 Fulci Band yn perfformio’n fyw ar y llwyfan o flaen dangosiad llawn o’r ffilm, yn dod a dehongliad prog a ffordd hollol newydd o brofi un o ffilmiau orau Fulci!