Polaris

wedi'i perfformio gan Michael Sabbaton

  • Lleoliad Theatre
  • Hyd 75 mins

1920. Mewn cors yn Louisiana mae dyn aflonydd yn rhy ofn i gysgu yn dechrau ail-fyw ei hunllef. Wrth iddo syllu i’r awyr dywyll uchod a drwy’r coed mae’n gweld y seren polyn, Polaris, yn wincian, yn hyll drwy geisio cyfathrebu rhyw neges am hanes hynafol dynoliaeth.

Wrth iddo gwympo o danodd hudoliaeth y seren, mae’n teithio drwy freuddwydion o realaeth dirdroi ac yn cyrraedd o’r diwedd dinas mewn gwlad ryfedd, cynhanesyddol ac oer. Mae pobol ryfedd, creaduriaid a duwiau estron yn datgelu’i hunain wrth i’r dyn colli arno’i hun yn y byd hwn. Wedi’i rhwygo rhwng hunaniaethau ac yn brwydro i dal sownd ar ei bwyll, mae’n rhaid i’r dyn amddiffyn y ddinas a synnwyr ei hun wrth i gelyn anweledol agosáu...

Wedi’i addasu a’i berfformio gan Michael Sabbaton a rhan o ‘The Lovecraft Collection’, mae Polaris yn darlunio arswyd o realiti wedi’i chwalu a bodolaeth mewn cythrwfl. Un o weithiau cynharaf Lovecraft, mae Polaris yn dod a’r un rhinweddau o ddirgel tywyll, gwewyr a gwyddonias mae Lovecraft yn adnabyddus amdano, yn cwestiynu cysyniadau ofn, yr anhysbys a bodolaeth ein hunain.