The Devil in the Deuce – 42nd Street Disco with DJ Dellamorte

  • Lleoliad Theatre bar
  • Hyd 120mins (approx.)

Gan ein bod ni’n dathlu holl bethau 42nd Street y flwyddyn yma gwelsom ni esgus perffaith i fynd ati’n ffynci gyda seiniau Dinas Efrog Newydd yn ei hoes aur frwnt. Yn dilyn ein dangosiad arbennig o The Beyond gyda cherddoriaeth byw gan Fabio Frizzi a’i fand, bydd DJ Dellamorte yn troelli goreuon y 60au a’r 70au – hynny yw, y wir oreuon, nid y caneuon cawslyd – a gyda rheini sblash o’r traciau sain gorau ac amheus o gyfnod y grindhouse. Mae gwisg o’r cyfnod yn cael ei hannog yn gryf.