A Dark Song

+ sgwrs gyda Liam Gavin a Eoin O'Faolain

  • Cyfarwyddwr Liam Gavin
  • Cast

    Catherine Walker
    Steve Oram

  • Gwlad UK/Ireland
  • Iaith English
  • Hyd 100mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Mae Sophia yn rhentu hen dŷ mawr yng nghefnwlad anghysbell yng Nghymru ac yn hurio argelydd (Steve Oram) er mwyn perfformio defod hynafol er mwyn iddi fedru cyfathrebu gyda’i phlentyn marw. Ond mae’r ddefod flinderus yn dechrau profi eu pwyll a hyd yn oed eu heneidiau pan mae gwir fwriad Sophia’n cael ei ddatgelu…

Mae Steve Oram yn dod yn dipyn o wyneb rheolaidd yn Abertoir, yn dilyn dangosiadau o Sightseers (2012), The Canal (2014) ac Aaaaaaaah! (2015). Yn y ffilm hon mae o’n un hanner o bartneriaeth ddwys y ffilm, wrth i ddau berson gwahanol iawn chwarae gyda’r goruwchnaturiol, wedi’i gyrru gan alar a dicter yn gyfartal. Mae A Dark Song yn ffilm gyntaf gwych gan ysgrifennwr-cyfarwyddwr Liam Gavin.

K2_TRAILER