The Love Witch

  • Cyfarwyddwr Anna Biller
  • Cast

    Samantha Robinson
    Gian Keys
    Laura Waddell
    Jennifer Ingrum

  • Gwlad USA
  • Iaith English
  • Hyd 120mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Mae Elaine, gwrach brydferth, yn benderfynol o ddarganfod dyn i’w charu hi. Yn ei thŷ crand gothig mae hi’n gwneud swynion a lledrith, ac yna’n ffeindio dynion ac yn eu hudo nhw. Ond, mae ei swynion yn gweithio’n rhy dda, ac yn gadael cyfres o ddioddefwyr truenus ar ei hôl hi. Pan mae hi o’r diwedd yn cwrdd â dyn ei breuddwydion, mae ei hanobaith i gael ei charu’n gyrru hi i ochrau gwallgofrwydd a llofruddiaeth.

Gydag arddull weledol sy’n talu teyrnged i ffilmiau ias-a-chyffro Technicolor y 60au, mae The Love Witch yn archwilio ffantasi benywaidd a’r canlyniadau o narsisiaeth patholegol. Yn dangos yr un sylw i fanylion a chelfyddyd feistrolgar a’i ffilm gyntaf, Viva (2007), mae The Love Witch yn brofiad sgrin-fawr moethus.

K2_TRAILER