The Inerasable

PREMIERE PRYDEINIG

  • Cyfarwyddwr Yoshihiro Nakamura
  • Cast

    Yuko Takeguchi
    Ai Hashimoto
    Kuranosuke Sasaki
    Kentaro Sakaguchi
    Kenichi Takitoh

  • Gwlad Japan
  • Iaith Japanese (Eng subs)
  • Hyd 107mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Mae bob dim yn cychwyn gyda llythyr. Un diwrnod, mae nofelydd yn derbyn llythyr gan Ms. Kubo, myfyrwraig yn y brifysgol. Mae hi’n ysgrifennu amdano synau rhyfedd mae hi’n clywed yn ei fflat. Mae Ms. Kubo yn ymchwilio hanes yr adeilad ac yn darganfod bod cyfres o denantiaid blaenorol wedi bod yn ddioddefwyr rhyw rym anweledol sydd wedi’i gyrru nhw i hunanladdiad neu lofruddiaeth ar ôl iddyn nhw symud o’r adeilad. Pam wnaethon nhw ddioddef marwolaethau truenus ar ôl gadael? Mae’r nofelydd a’r fyfyrwraig yn dysgu gwirionedd am be ddigwyddodd blynyddoedd cynt yn yr adeilad iasol a melltigedig?

Gyda The Inerasable mae Yoshihiro Nakamura yn rhoi troelli’r stori ysbryd traddodiadol wrth ddefnyddio strwythur naratif anarferol, a’r canlyniad yw ymchwiliad goruwchnaturiol gwirioneddol afaelgar a brawychus. Mae’r ffilm yn serennu Yūko Takeuchi (gellir ei gweld yn Creepy hefyd) fel y nofelydd sy’n llefarydd y ffilm a’r actores addawol Ai Hashimoto (sydd wedi bod mewn nifer trawiadol o ffilmiau genre yn barod) fel y fyfyrwraig, mae’r deuawd canolig hon yn cael ei thynnu i mewn i’r hanes tywyll mae’n ymchwilio, ac rydym ni’n cael ein tynnu fewn wrth eu hochrau nhw.

K2_TRAILER