Fantasticozzi

PREMIERE PRYDEINIG

  • Cyfarwyddwr Felipe M. Guerra
  • Cast

    Luigi Cozzi

  • Gwlad Brazil
  • Iaith Italian (Eng Subs)
  • Hyd 64mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Dyma ffilm ddogfen am fywyd a gyrfa'r cyfarwyddwr Eidaleg, Luigi Cozzi, a’i obsesiwn gyda gwyddonias a ffantasi.

Mae Luigi Cozzi wedi caru gwyddonias ers iddo fod yn blentyn, a’i freuddwyd oedd i fod yn gyfarwyddwr o’r math yma o ffilm. Dros bum degawd, dilynodd Cozzi ei freuddwyd, wrth wynebu cyllidau tynn, cynhyrchwyr barus a sgriptiau’n cael eu newid. Mae ei stori o, sy’n cael ei adrodd drwy’i ffilmiau, yn stori am obsesiwn un dyn i wneud ffilmiau gwyddonias mewn gwlad nad oedd yn hoff ohonynt.

Mae Fantasticozzi wedi’i chreu allan o dros 12 awr o gyfweliadau a deunydd wedi’i saethu gan newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilmiau annibynnol o Frasil, Felipe M. Guerrera, tra oedd Cozzi yn ymweld â Brasil yn 2010. Yn debyg dyma’r adolygiad mwyaf cyflawn o fywyd a gyrfa’r cyfarwyddwr cwlt hwn.

Mae’r canlyniad yn ddoniol, llawn antur a ffantasi, a bron iawn yn anghredadwy – fel bywyd Cozzi ei hun! Paratowch i ddysgu lot o bethau mae’n bosib nad oeddech chi’n ymwybodol ohonynt o flaen llaw, ac i werthfawrogi Luigi Cozzi fel yr arwr di-glod o sinema Eidaleg!

K2_TRAILER