Blood on Méliès' Moon

PREMIERE PRYDEINIG + sgwrs gyda Luigi Cozzi

  • Cyfarwyddwr Luigi Cozzi
  • Cast

    Luigi Cozzi
    Lamberto Bava
    Barbara Magnolfi

  • Gwlad Italy
  • Iaith Italian (Eng Subs)
  • Hyd 110mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Yn Rhufain fodern mae cyfarwyddwr ‘Star Crash’, Luigi Cozzi (sy’n chwarae ei hun yn wych) yn rhedeg ‘Dario Argento’s Museum of Horrors’. Pan mae digwyddiadau rhyfedd a seicig yn ei arwain o i ddarganfod bod dyfeisiwr Ffrengig wedi creu’r camera ffilm gyntaf blynyddoedd cyn y brodyr Lumière, ac mae’n cychwyn ar daith epig i mewn i fydoedd cyfochrog a dirgelwch iasol lle mae Luigi ei hun yn allweddol i arbed diwedd y byd!

Os nad ydych chi’n ymwybodol yn barod o bwy yw Luigi Cozzi yna mae’n deg i ddweud mai’n bosib bydd y ffilm yn eich gadael chi wedi drysu’n llwyr! Mae ei ffilm gyntaf ers 27 mlynedd yn llawn ddigon o gyfeiriadau at ei yrfa ei hun (mae hyd yn oed Lamberto Bava yn actio ynddi!), mae hon yn ffilm sy’n llythyr-cariad tuag at ffilmiau ‘ffantastig’ tra ar yr un pryd yn dipyn o jôc sy’n hunan bychanu. Mae Blood on Melies’ Moon yn ffilm wedi gwneud gan gyfarwyddwr angerddol yn cael lot ormod o hwyl ar ei gost ei hun, a does ddim amau fe gawn ni gymaint o hwyl yn ei gwylio!