The Wailing

  • Cyfarwyddwr Hong-jin Na
  • Cast

    Kwak Do-won
    Jun Kunimura
    Jung-min Hwang
    Woo-hee Chun

  • Gwlad South Korea
  • Iaith Korean (Eng Subs)
  • Hyd 150mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Heb ddigon o brofiad i wneud, mae’n rhaid i blismon lleol, Jong-goo, ymchwilio i gyfres o lofruddiaethau yn ogystal â chynnydd mewn gwallgofrwydd, sy’n ymddangos yn gysylltiedig gyda chyrhaeddiad dyn dirgel o Japan sy’n byw ar gyrion y pentref. Ymhellach, mae’n fraw i Jong-goo i ddarganfod bod bosib i’w ferch ifanc syrthio o dan hudoliaeth y dyn estron. Mae Jonh-goo yn galw ar siaman carismatig i ryddhau ei ferch o afael y felltith, ond mae defod ddwys y siaman yn bygwth gwneud pethau’n waeth. Mae Jong-goo yn sylweddoli bydd rhaid iddo wynebu’r drygioni eithaf ei hun.

Yn sicr un o’r ffilmiau arswyd gorau'r flwyddyn yma, mae The Wailing yn llwyddo i roi profiad trawiadol a chyflym er ei bod yn ffilm hir. Dyma ffilm sy’n llwyddo fod yn dywyll o ddoniol a hefyd yn hynod lwm, mae’r actorion cryf a’r golygfeydd rhyfeddol yn cadw’r ffan fwyaf profiadol o ffilmiau arswyd ar bigau drain.

K2_TRAILER