The Void

  • Cyfarwyddwr Steven Kostanski & Jeremy Gillespie
  • Cast

    Aaron Poole
    Ellen Wong
    Kathleen Munroe

  • Gwlad Canada
  • Iaith English
  • Hyd 90 mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 18

Wrth fynd ati ar ei batrôl rheolaidd, mae’r plismon Daniel Carter yn digwydd dros ffigwr gwaedlyd yn cerdded yn gloff lawr lôn amddifad. Mae o’n mynd a’r dyn i’r ysbyty bach lleol, sydd heb staff llawn, ond i ddarganfod bod y staff a’r cleifion yn dechrau troi i mewn i rywbeth annynol. Wrth i’r braw gwaethygu, mae Carter yn arwain y goroeswyr eraill ar daith uffernol i ddyfnderoedd yr ysbyty mewn ymgais anobeithiol i roi ddiwedd ar yr hunllef.

Mae ffans ffilmiau arswyd wedi bod yn disgwyl am y ffilm hon gan Kostanski a Gillespie, ffilm wnaeth llwyddo i greu digon o argraff bod llawer iawn ohonom ni wedi cyfrannu i’w ymgyrch cyllid-torfol. Dyma felly o’r diwedd yr hunllef waedlyd rydym ni i gyd wedi bod yn disgwyl amdani!

Image Gallery