Ffilmiau Mud Byrion Arswyd

Mae Gŵyl Arswyd Abertoir yn falch iawn o'i hanes hir o weithio gyda'r pianydd Paul Shallcross dros lawer o flynyddoedd. Yn ddiweddar, mae'r ŵyl wedi gweithio gyda Paul ar gyfrolau arbennig o ffilmiau byrion mud o ddechrau arswyd yn sinema, drwy gomisiynu cerddoriaeth newydd ar gyfer nifer o ffilmiau diddorol, iasol a doniol.

Mae'r tair cyfrol o'r Ffilmiau Mud Byrion Arswyd ar gael i'w bwcio ar gyfer lleoliadau eraill i'w perfformio. Cysylltwch gyda ni os oes diddordeb gyda chi ddarganfod mwy!