Taith Ffilmiau Mud Byrion Cyf. 1

Detholiad o ffilmiau mud byrion o ddechrau'r 20fed ganrif, gan gynnwys cyflwyniadau i bob ffilm a cherddoriaeth newydd wedi'i chomisiynnu'n arbennig gan Gŵyl Arswyd Abertoir. Cyfansoddwyd a pherfformwyd gan Paul Shallcross.

Taith 2014/2015.

- Os hoffech chi hwn ar gyfer eich lleoliad chi, cysylltwch gyda ni! -

LAWRLWYTHWCH NODIADAU MANWL (wedi'i argymell i fynd efo'r perfformiad)
LAWRLWYTHWCH CRYNODEB 1-DUDALEN AR GYFER ARGRAFFU
LAWRWYTHWCH LLUNIAU AR GYFER Y DAITH

The Jest (1921)

(Fred Paul, DU 15mun)

Cofnod gwych Prydeinig o gyfres y Grand Guignol. Ar ol i'w wraig ei adael o mae hen ddyn y ddioddef am 40 mlynedd yn gobeithio y bydd hi'n dod yn ol, nes i'w gyd-letywyr penderfynu chwarae tric case arno... Heb os dyma'r ffilm mwyaf modern o'r detholiad, gan gynnif naratif sy'n medru cystadlu efo goreuon o straeon heddiw.

Le Spectre Rouge (1907)

(Segundo de Chomón, Ffrainc 9mun, Pathe)

Mae dewin diawledig yn perfformio sioe hudolus a ddyfnau Uffern ei hun, ond mae ei cam-driniaeth o'i cynorthwywyr benywaidd yn gwylltio ysbryd da sy'n dechrau ymyrryd. Ffilm sy'n llawn effeithiau arbennig cynnar a thrawiadol.

Frankenstein (1910)

(J. Searle Dawley, UDA 16mun, Edison Manufacturing Company)

Dyma'r addasiad gyntaf o glasur Mary Shelley ar ffilm. Mae'n cynnwys golyfa creadigaeth y bwystfil sy'n dal i godi ofn, er i'r cynhyrchwyr honni eu bod nhw'n lleihau ar agweddau dychrynllyd y nofel gwreiddiol.  Enghraifft nodedig o hanes ffilm cynnar.

La Légende Du Fantome (1908)

(Segundo de Chomón, Ffraind 13mun, Pathe)

Taith i'r is-fyd - delweddau trawiadol, pobol madfall, marwolaeth, diawled ac ysbrydion, i gyd wedi'i ymuno gan cerbyd diawledig (h.y car wedi'i guddio'n aneffeithiol) a naratif bydda'n drysu Einstein. Profiad cofiadwy!