Taith Ffilmiau Byrion Arswyd Mud Rh. III

Gyda chyfeiliant piano'n fyw gan Paul Shallcross

  • Cyfarwyddwr Various
  • Gwlad Various
  • Iaith Silent
  • Hyd 75mins
  • Blwyddyn Various
  • Cyngor Oedran PG

Wedi’i comisynnu gan Abertoir, mae’r casgliad hwn o ffilmiau byrion mud yn dathlu dyfeisgarwch a dychymyg sinema gynnar gyda chasgliad o ffilmiau prin eu gwelwyd, ar ochr ysgafn arswyd, ac, yn ffurfio canol y rhaglen, un o gampweithiau wirioneddol dywyll, ond prin yn adnabyddus, sinema gynnar avant-garde. Mae’r ffilmiau i gyd wedi’i chyflwyno a’u cyfeilio gan Paul Shallcross.

 

NOW TOURING!

 

Wedi ei premiere yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Abergavenny, rydym yn falch o gyhoedd bod Rhifyn III ein ffilmiau mud yn teithio ar hyd y wlad, felly os nad ydych chi'n medru'i weld yn Abertoir, dyma rhai gyfleuoedd eraill! Dyma'r manylion:

 
Hyd 26ain     - Pontardawe Arts Centre, Pontardawe
Hyd 28ain     - Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Hyd 29ain     - Old Market Hall, Yr Amwythig
Hyd 31ain     - Chapter Arts Centre, Caerdydd
Tach  4ydd     - Y Tabernacl, Conwy  (Rhan o Coastline Festival)
Tach 20fed    - Abertoir, Aberystwyth!!!
 
 

 

 

http://www.silentera.com/video/img/frames/thoseAwfulHats-kino.jpg
Those Awful Hats (1909)

D.W. Griffith, UDA, 3 mun.
O bosib yr enghraifft gynharaf o ffilm gyhoeddiad cyhoeddus, wedi’i chyfarwyddo gan neb llai na’r dyn fydda’n ddiweddarach enwog am Birth of a Nation, dyma ffilm sy'n cynnwys rhai digwyddiadau annisgwyl iawn mewn cynulleidfa sinema.

 

http://pthumb.lisimg.com/image/1642857/280full.jpg
The Invisible Thief (1909)

Segundo de Chomón, Ffrainc, 5 mun.
Mae isleisiau tywyll stori HG Wells yn cael eu trawsnewid yn ffilm hyfryd am drosedd gyda thechnegau camera Chomon yn ymchwilio pob posibilrwydd o stop-motion a ffotograffiaeth amlygiad dwbl. Dyma'r ffilm gynharaf i wneud defnydd yr awdur enwog fel deunydd ffynhonnell.

 

http://www.scifi-movies.com/images/contenu/data/0004470/image-over-incubated-baby-2.jpg
An Over-Incubated Baby (1901)
R.W. Paul, DU, 1 munud
Roedd Robert W. Paul yn beiriannydd arloesol o gamerâu ffilm a gwneuthurwr ffilm gyda llygad craff am y ffantastig a'r rhyfedd. Mae ei ffilmiau, fel yr un yma a Undressing Extraordinary, yn dangos rhai o'r arwyddion cynharaf o arswyd mewn ffilm. Stori rybuddiol o'r hyn sy'n digwydd os byddwch yn gadael babi goginio am rhy hir...

 


The Man with a Rubber Head (1901)
Georges Méliès, Ffrainc, 3 mun.
Mae Tad y sinema ffantastig yma yn troi’i dychymyg tuag at ei ben ei hun…

 

http://popcornhorror.com/wp-content/uploads/2014/01/The-Fall-Of-The-House-Of-Usher-1928-Watson-Webber.png
The Fall of the House of Usher (1928)

James Sibley Watson and Melville Webber, UDA, 13 mun.
Dyma waith annisgwyl gan griw o artistiaid amaturiaid gyda grym ariannol ag celfyddydol. Mewn llawer ffordd dyma’r fersiwn sinematig diffiniol o’r clasur gan Edgar Allan Poe.

 

https://thesplitscreen.files.wordpress.com/2011/07/bowers_thereitis.jpg
There It Is (1928)

Charley Bowers, UDA, 22 mun.
Dyma ffilm am ysbrydion gan un o’r comediwyr anghofiedig y cyfnod mud. Mae stori’r ffilm yn esgus am gomedi swreal ac effeithiau camera anhygoel.

 

Bydd y ffilmiau i gyd yn cael eu cyflwyno a'u cyfeilio ar y piano gan Paul Shallcross, yn cyflwyno'i gerddoriaeth newydd fo'i hun ar gyfer y ffilmiau yma am y tro gyntaf ar y daith.

Image Gallery