17 Tach 2015

Abertoir 2015: Drosodd!

Mae Abertoir 2015 wedi gorffen ar ôl chwe diwrnod wir anhygoel.

Rydym yn falch iawn gyhoeddi ein ennillwyr! Mae ein gynulleidfa'n pleidleisio trwy gydal yr ŵyl a dyma'r ffilmiau wnaeth cyrraedd y brig:

Ffilm Orau (Clasuron)

1af: The Descent (Neil Marshall, 2005, DU)
2il: Profondo Rosso (Dario Argento, 1975, Yr Eidal)
3ydd: The Abominable Dr. Phibes (Robert Fuest, 1971, UDA)

Ffilm Orau (Newydd)

1af: Deadman Inferno (Hiroshi Shinagawa, 2015, Siapan)
2il: Bone Tomahawk (S. Craig Zahler, 2015, UDA)
3ydd: Robbery (Fire Lee, 2015, Hong Kong)

Melies d'Argent ar gyfer Ffilm Fer Ewropeaidd Orau  & Gwobr Ffilm Fer Abertoir

Sanguine Craving (Gerard Tusquellas Serra, 2014, Sbaen)

Yr digwyddiad cafodd y sgôr uchaf dros yr ŵyl i gyd, ac rydyn ni'n credu erioed yn hanes Abertoir, oedd ein marathon o'r gyfres gyntaf o Danger 5, gyda sylwebaeth byw gan Dario Russo a David Ashby, wnaeth sgorio 4.79 allan o 5...!

Hoffen ni ddweud DIOLCH YN FAWR IAWN i bawb oedd yn ran o Abertoir 2015 - ein gwesteion arbennig, hen ffrindiau a gwynebau newydd oll! Wnaethoch chi sicrhau bod ein penblwydd yn 10 yn ddigwyddiad arbennig iawn, a nid yw'n bosib eich diolch chi ddigon. Rydyn ni'n gobeithio eich bod chi wedi cael amser mor wych a ddaru ni, a gobeithio gwelwn ni chi blwyddyn nesaf...!