11 Med 2017

Rhaglen Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion 2017!

Rydyn ni'n falch iawn o ddatgelu'r rhaglen ar gyfer Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion Abertoir 2017! Dros wythnosau rydym ni wedi bod yn gwylio nifer wych o ffilmiau byrion, ac wedi dewis y rhai gorau er mwyn i gynulleidfa'r ŵyl dewis yr enillwr! Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi'i dewis - mae pob un ffilm yn cystadlu ar gyfer gwobr Abertoir, tra bod pob ffilm Ewropeaidd hefyd yn cystadlu am y wobr Méliès d'Argent, a gynigwyd ganddom fel aelodau o'r European Fantastic Film Festival Federation.

I weld y detholiad llawn, defnyddiwch y ddewislen uchod - ac ymunwch â ni ym mis Tachwedd er mwyn gweld y ffilmiau gwych rhain!