13 Ebr 2018

Dyddiadau Abertoir 2018 wedi glanio!

Mae'n ddydd Gwener y 13eg! Felly pa amser gwell i ddatgelu dyddiadau 13eg blwyddyn Abertoir! Mae hyd yn oed cliw bach am thema'r ŵyl...mae'n gynnil, ond ry'n ni'n siŵr gwnewch chi'i ddatrys!

Mae Abertoir yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, 13eg o Dachwedd (wrth gwrs) ac yn rhedeg hyd at ddydd Sul, 18fed o Dachwedd. Bydd 6 diwrnod o oreuon ffilmiau arswyd newydd sbon, yn ogystal â chlasuron cwlt, gwesteion arbennig, cyflwyniadau, theatr, cerddoriaeth byw a llawer mwy! Ry'n ni'n gobeithio gwnewch chi ymuno â ni yng Ngwersyllfa Abertoir...dowch a phâr sbâr o drôns.