Your Vice is a Locked Room and Only I Have the Key

  • Cyfarwyddwr Sergio Martino
  • Cast

    Anita Strindberg

    Edwige Fenech

    Luigi Pistilli

  • Gwlad Italy
  • Iaith English
  • Hyd 96 mins
  • Blwyddyn 1972
  • Cyngor Oedran 18

Addasiad llac o glasur Edgar Allan Poe, The Black Cat, mae ffilm Sergio Martino Your Vice is a Locked Room and Only I Have the Key yn un o’i gialli mwyaf adnabyddus a pharchus. Mae Irina (Anita Stringberg) yn garcharedig yn ei thŷ mawr yng nghanol nunlle gyda’i gŵr sy’n ei cham-thrin, yr awdur Oliviero (Luigi Pistilli), sy’n bychanu’i wraig yn ystod gloddestau meddw. Pan mae nith Oliviero, Floriana (Edwige Fenech), yn dod i aros, mae pethau’n troi, wrth i Irina cyfrinachu yn y ddynes iau. Wrth i gyfres o lofruddiaethau brawychu’r pentref agosaf, does dim ond un canlyniad…

Mae gwallgofrwydd, llofruddiaeth, rhyw a chnawdolrwydd i gyd yn cyfuno yn y giallo poblogaidd a chlyfar hon. Mae Edwige Fenech ar ei gorau fel y ferch ddrwg sy’n dod rhwng gŵr a gwraig, ac yn mynd a’r stori at lefelau sy’n fwyfwy anrhagweladwy. Mae lot mawr o hwyl i’w gael gyda’r ffilm hon, sy’n golygu dyma’r ffordd orau i gychwyn yr ŵyl!

Image Gallery

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!