The Sleep Curse

  • Cyfarwyddwr Herman Yau
  • Cast

    Anthony Wong

    Jojo Goh

    Michelle Wai

    Gordon Lam

  • Gwlad Hong Kong
  • Iaith Cantonese, Japanese, Malay (English subtitles)
  • Hyd 102 mins
  • Blwyddyn 2017
  • Cyngor Oedran 18

Yn y 1990au ac mae’r niwrolegydd enwog Lam Sik-ka (Anthony Wong) yn cael ei drwblu gan byliau o anhunedd. Pan mae’n cael ei gysylltu gan cyn-gariad sy’n dioddef o aflonyddwch tebyg, mae’n ymchwilio’n ddyfnach ac yn darganfod hanes brawychus wedi’i rhannu rhyngddynt sy’n ymestyn yn ôl i feddaniaeth Japan ar Hong Kong.

Bydd fans o arswyd Category III o Hong Kong yn adnabod y cyfarwyddwr Herman Yau o glasuron dros ben llestri fel The Ebola Syndrome a The Untold Story. The Sleep Curse yw ei ffilm iasol ddiweddaraf, gyda diweddglo sy’n byw at ei enw da fel un o gyfarwyddwyr mwyaf clodfawr sinema cwlt Hong Kong. Mae cast sy’n cynnwys eiconau fel Anthony Wong a Gordon Lam, a lleoliad y ffilm yn y 90au, yn wir yn gwneud i The Sleep Curse teimlo fel ffilm o oes aur ffilmiau exploitation Hong Kong. Gan daflu dirgelwch hanesyddol ymysg ei brawiau arswyd, dyma ffilm sy’n denu sylw ac yn aros yn y cof hir wedi diwedd y ffilm.

Image Gallery

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!