Meatball Machine Kodoku

  • Cyfarwyddwr Yoshihiro Nishimura
  • Cast

    Yoji Tanaka

    Yurisa

    Miyuki Torii

    Eihi Shiina

  • Gwlad Japan
  • Iaith Japanese (English subtitles)
  • Hyd 108 mins
  • Blwyddyn 2017
  • Cyngor Oedran 18

Mae Yuji Noda (Yoji Tanaka) yn gasglwr dyledion isel-ei-lwc. Jyst wrth iddo ddysgu ei fod ganddo gancr gyda dim siawns o wella, mae’r Necroborgs yn ymosod ac yn dechrau troi pobol arferol, fydol i fod yn seiborgiaid estron mega-dreisgar. Wrth i Noda sylweddoli bod ei salwch yn golygu ei fod o’n imiwn i reolaeth y Necroborgiaid, mae siawns ganddo o’r diwedd gwneud rhywbeth efo’i fywyd ac achub y byd…

Os ydych chi wedi gweld ffilm gan Yoshihiro Nishimura eisoes (Tokyo Gore Police, Vampire Girl vs Frankenstein Girl) yna debyg eich bod chi’n gwybod yn union beth i’w disgwyl o’r ffilm hon – tomen o laddedigaeth, noethni direswm, jôcs hynod o dramgwyddus, a synhwyredd splatterpunk. Wedi gwneud ei farc yn barod ar fydysawd Meatball Machine gyda’i ffilm fer Meatball Machine: Reject of Death (2007), mae Nishimura wir yn rhoi stamp ei hun ar y dilyniant hwn i glasur trawsnewidiol Yudai Yamaguchi.

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!