Vampire Clay

PREMIERE PRYDEINIG

  • Cyfarwyddwr Sôichi Umezawa
  • Cast

    Asuka Kurosawa

    Kyoka Takeda

    Ena Fujita

  • Gwlad Japan
  • Iaith Japanese (English subtitles)
  • Hyd 80 mins
  • Blwyddyn 2017
  • Cyngor Oedran 18

Mewn ysgol gelf wledig ac adfeiliedig mae dosbarth bach o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu semester newydd. Yn fuan mae’u hanfodlonrwydd gydag ansawdd y dysgu’n cael ei anghofio amdano wrth i rai o’r dosbarth dechrau diflannu ac eraill ddechrau ymddwyn yn rhyfedd. Wrth iddynt ymddangos eu bod nhw o dan reolaeth ryw glai dieflig, mae pethau’n dod yn fwy rhyfedd byth wrth i werthwr celf troi fyny i egluro beth sydd wir yn mynd ymlaen…

Mae teimlad rhyfeddol o retro’r 90au amdano Vampire Clay, ac mae hynny’n cael ei gyflawni drwy ymrwymiad â gwaith effeithiau corfforol, synnwyr rhyfedd o ofn a phalet lliw diflas. Tra does ddim dianc rhag y ffaith bod syniad canolog y ffilm yn un sy’n wirion dros ben – clai dieflig yn llofruddio myfyrwyr celf – ond mae’r gweithredu stomplyd ac afiach yn datblygu gyda synnwyr dychmygol o’r grotesg, a gyda delweddau sy’n galw gwaith Junji Ito i’r cof. Mae Vampire Clay yn ffilm ryfedd ac unigryw arswyd-J.

Image Gallery

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!