Mon Mon Mon Monsters

  • Cyfarwyddwr Giddens Ko
  • Cast

    Deng Yu-Kai

    Kent Tsai

    Bonnie Liang

    Eugenie Liu

    Lin Pei-hsin

  • Gwlad Taiwan
  • Iaith Mandarin (English subtitles)
  • Hyd 113 mins
  • Blwyddyn 2017
  • Cyngor Oedran 18

Mae Shu-Wei Lin (Deng Yu-kai) yn gîc i’r carn sy’n o hyd yn gorfod dioddef bwlio difrifol gan ei gyd-ddisgyblion. Pan mae’n cael ffrae gan athrawes ddidrugaredd, mae Shu-Wei yn cael ei aseinio i gyflawni gwasanaeth cymdeithasol gyda thri o’i fwlis. Wrth crepian o gwmpas y gartref hen bobol adfeiliedig maen nhw fod i weithio ynddo, mae’r bobol ifanc yn dod ar draws rhywbeth brawychus – dau fwystfil cnawd-bwyta, un hŷn ac un iau. Mae’r plant ysgol yn llwyddo cydio ar yr un iau, ac felly mae cychwyn ar gylch creulon o artaith wrth i’r dioddefwr ddod yn fwli, a tra mae’r creadur sydd ar ôl yn cychwyn ar ddilyniad didostur.

Ffilm sy’n ddieflig o nihilistaidd sy’n edrych ar y penbleth dirfodol oesol – pwy yw’r bwystfilod, go iawn? Mae oedolion anghymwys yn gwneud dim er mwyn helpu cenhedlaeth ffyrnig o bobol ifanc ac mae’r profiad o ysgol uwchradd yn dod yn uffern ar gyfer y prif gymeriad Shu-Wei, tra i’w bwlis mwynhau’r siwrne i ebargofiant. Gan gynnwys perfformiadau gwych a golygfeydd byth-gofiadwy, mae Mon Mon Mon Monsters yn un o’r ffilmiau mwyaf crai – a mwyaf tywyll – y gwelwch chi’r flwyddyn hon.

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!