Diani & Devine Meet the Apocalypse

  • Cyfarwyddwr Etta Devine & Gabriel Diani
  • Cast

    Etta Devine

    Gabriel Diani

    Barry Bostwick

    Armin Shimmerman

  • Gwlad USA
  • Iaith English
  • Hyd 90 mins
  • Blwyddyn 2016
  • Cyngor Oedran 15

Ydych chi wedi’ch paratoi ar gyfer diwedd y byd? Nid yw’r comedïwyr Diani & Devine. Dim o gwbl. Felly pan mae holl bŵer a systemau cyfathrebu yn diffodd yn ddirgel, mae’r cwpl heb ei baratoi yn pacio’u pethau ac yn mynd ar daith i ddod o hyd i rywle ddiogel i ddisgwyl nes i’r apocalyps dod i ben. Gyda’u ci ffyddlon Watson a’u cath ddiflas Mrs. Peel, mae’r deuawd yn gorfod dioddef realaeth gyffredin cwymp gwareiddiad wrth gadw gafael ar eu gwedduster a rhesymoldeb wrth i weddill dynoliaeth troi’n rhyfedd iawn.

Mae’n bosib y cofiwch chi’n bod ni wedi dangos y comedi gwych The Selling rhai blynyddoedd yn ôl, a rŵan mae’r tîm tu ôl i’r ffilm honna dychwelyd gyda ffilm ddychanol, glyfar a phleserus drwy ddirywiad y byd. Mae Gabriel Diani a Etta Devine yn ddeuawd comedi uchel eu clod sydd wedi dod yn ffefrynnau ar hyd clybiau a gwyliau comedi dros America, drwy gyfresi gwe, nofelau a rŵan ffilmiau. Paratowch ar gyfer ffilm gomedi, rhamantus ôl-apocalyptig sy’n syfrdanol, hurt a swynol.

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!