Return to Return to Nuke 'Em High AKA Vol. 2

  • Cyfarwyddwr Lloyd Kaufman
  • Cast

    Asta Paredes

    Catherine Corcoran

    Zac Amico

    Lloyd Kaufman

  • Gwlad USA
  • Iaith English
  • Hyd 72 mins
  • Blwyddyn 2017
  • Cyngor Oedran 18

Croeso i Tromaville High School, lle mae’r gwaethaf o ddynoliaeth yn dod i astudio – sefydliad digon arferol, wrth ymyl ffatri arferol y Tromorganic Foodstuffs Conglomerate. Mae’n hefyd yn ddiwrnod arferol ar gyfer Chrissy a Lauren, y lesbiaid diniwed o Ran 1, sydd, ar y cyd gyda Kevin the Wonder Duck, yn gorfod parhau eu brwydr yn erbyn band y Glee Club sydd wedi’i mwtanu, y gwastraff gwenwynig sy’n heintio’r boblogaeth, a mwtanwyr, bwystfilod, cyfeiliornwyr a dirywiedigion Tromaville.

Mae’n bosib bydd y rheini ohonoch chi sydd wedi bod gyda ni ers tipyn o amser yn cofio ymweliad Lloyd Kaufmann i’r ŵyl yn 2007, ac rydyn ni wedi bod yn chwifio baner Troma a’i naws unigryw o sinema annibynnol (a sarhaus) ers hynny, gyda Poultrygeist, Return to Nuke ‘Em High Vol 1 a rŵan y dilyniant! Unrhyw un sy’n gobeithio am ffilm sy’n peri i rywun fyfyrio ar ddrygioni corfforaethau amlwladol, gwell i chi droi’n ôl. I ddweud y gwir, os nad ydych yn gwybod beth i ddisgwyl…trowch yn ôl! Mae beth fyddwch yn gwylio yn union mor syfrdanol, sarhaus ac afiach a’r ffilm gyntaf, gyda digon o effeithiau ffisegol, gwaed ffug (coch a gwyrdd), jôcs tîn, jôcs bronnau, jôcs pidyn a jôcs chwydan…i gyd wedi’i addurno gyda digon o hiwmor sadistiaid a gwleidyddol a foesol sarhaus i wneud hyn y profiad gall yn unig fod gan Troma! Rydych chi wedi’ch rhybuddio!

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!