The Bloodstained Shadow

  • Cyfarwyddwr Antonio Bido
  • Cast

    Stefania Casini

    Lino Capolicchio

    Craig Hill

  • Gwlad Italy
  • Iaith English
  • Hyd 109 mins
  • Blwyddyn 1978
  • Cyngor Oedran 18

Mae Stefano (Lino Caoplicchio), myfyriwr coleg, yn dychwelyd i’r ynys fach Fenisaidd o Murano i ymweld â’i frawd Don Paolo, offeiriad. Unwaith yno, mae’n darganfod bod Don Paolo wedi’i ypsetio gan gyfryngwr ffug a’i chleientiaid lleol annuwiol: gamblwr, pedoffeil/anffyddiwr, a erthylwr anghyfreithlon. Pan maent yn dechrau cael eu lladd un wrth un ac mae Don Paolo yn dyst i un o’r llofruddiaethau, mae Stefano yn ceisio dod o hyd i’r llofrudd cyn iddo fo a’i frawd droi’n ddioddefwyr.

Giallo sy’n llai adnabyddus yw hon ac felly’n brif gystadleuydd ar gyfer cael ei chynnwys yn ein rhaglen, wrth gymryd cam yn ôl o’r rhai enwocaf i fwynhau rhywbeth bach yn wahanol. Mae lleoliadau Fenis yn berffaith ar gyfer y ffilm afaelgar a phendro hon, yn adleisio atmosffer a bygythiad Don’t Look Now, a gyda throadau ym mhob cyfeiriad yn y plot. Cadwch lygaid allan am Stefania Casini (sy’n chwarae Sara yn Suspiria), ac am rai golygfeydd gwych gan gynnwys dilyniant ar ôl y llofrudd ar gychod camlas a thrac sain gwych gan Stelvio Cipriani sy’n swnio’n bron fel Goblin ymhob dim ond enw!

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!