All the Colours of the Dark

  • Cyfarwyddwr Sergio Martino
  • Cast

    Edwige Fenech

    George Hilton

    Marina Malfatti

    Susan Scott

    Ivan Rassimov

  • Gwlad Italy
  • Iaith English
  • Hyd 94 mins
  • Blwyddyn 1972
  • Cyngor Oedran 18

Mae Jane (Edwige Fenech) yn ddioddef gyda hunllefau erchyll, sy’n dod o brofiad trawmatig ei phlentyndod. Mae ei gŵr yn ddiwerth, a phan mae ei chymydog yn awgrymu ymuno â chwlt dieflig i helpu anghofio’i phoen, mae Jane yn cael ei hun mewn byd peryglus sy’n bygwth ei gafael ar realaeth.

Dyma drydedd ffilm giallo Sergio Martino ac mae’n goctel gorffwyll o Sataniaeth, hysteria, rhyw, diwylliant pop, gwallgofrwydd, dirgel, seicedelia a llofruddiaeth – ac mae’n sefyll allan nid yn unig o yrfa Martino, ond hefyd yn y cylch giallo ar ei chyfan. Mae’r gwaith camera rhyfeddol a’r gerddoriaeth hypnotig gan Bruno Nicolai yn gwneud hon yn arddangosfa wych ar gyfer sêr Edwige Fenech a George Hilton, ac yn brofiad gwallgof ar gyfer y sgrin fawr!

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!