Tales of Terror

  • Cyfarwyddwr Roger Corman
  • Cast

    Vincent Price

    Peter Lorre

    Basil Rathbone

  • Gwlad USA
  • Iaith English
  • Hyd 89 mins
  • Blwyddyn 1962
  • Cyngor Oedran 15

Ein gwledd flynyddol o ddaioni Vincent Price, lle mae’n chwarae rhan mewn tair stori dywyll, sy’n cymryd ysbrydoliaeth o waith Edgar Allen Poe. Mae Morella yn gweld merch yn dychwelyd i hen blasty ei thad, sy’n ei beio hi am farwolaeth ei mam yn ystod ei genedigaeth. Wrth iddynt gychwyn ail-gysylltu, nid yw ysbryd ei mam yr un mor faddeuol… mae The Black Cat yn gweld Price yn chwarae wrth ymyl Peter Lorre am addasiad mwy ysgafn o’r stori glasur. Lorre yw Montresor Herringbone, meddw diwerth sy’n casáu cath ei wraig. Price sy’n chwarae’r swynwr hynaws sy’n syrthio mewn cariad gyda gwraig Herringbone, ac wrth wneud yn eu gwneud nhw’n dargedau o ddial marwol… Yn The Facts in the Case of M Valdemar mae Basil Rathbone yn chwarae hypnotydd sy’n parhau bodolaeth ei glaf terfynol gwael (Price) hir wedi ei farwolaeth gorfforol.

Mae Roger Corman yn dod â chlasur gothig AIP arall i ni, y bedwaredd yn ei gyfres o addasiadau Edgar Allen Poe. Posib bydd ffans House of Usher yn adnabod rywfaint o’r golygfeydd yn cael eu hail-ddefnyddio yn y ffilm hon! Yn arddangos talentau rhai o actorion gorau’r cyfnod, mae Tales of Terror yn enghraifft berffaith o’r berthynas dda rhwng Vincent Price a Peter Lorre, y gwnaeth actio hefo’i gilydd eto yn The Raven a Comedy of Terrors

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!