Mewn maestref Americanaidd, llawn eira cyn y Nadolig, mae’r ferch ifanc Ashley yn cael ei chyflogi gan rieni'r llanc Luke i’w warchod tra eu bod nhw’n mynd allan am y noson. Mae Luke yn anobeithiol eisiau profi’i hun yn ddeunydd cariad, ond mae ei gynlluniau i ennill Ashley yn cael eu tarfu pan mae’r ddau ohonynt yng nghanol ymosodiad ar y cartref.
Cysyniad hollol anrhagweladwy a gwreiddiol, sydd wedi’i ddisgrifio’n gywir iawn fel fersiwn arswyd o Home Alone, mae Better Watch Out yn arswyd-gomedi gwaedlyd Nadoligaidd sy’n plesio pawb, sydd wedi derbyn ymateb gwych o gynulleidfaoedd yng ngwyliau ffilmiau dros y byd yn barod.