Top Knot Detective

  • Cyfarwyddwr Aaron McCann & Dominic Pearce
  • Cast

    Toshi Okuzaki

    Masa Yamaguchi

    Mayu Iwasaki

  • Gwlad Australia
  • Iaith English, Japanese (English subtitles)
  • Hyd 87 mins
  • Blwyddyn 2017
  • Cyngor Oedran 15

Yn y 90au cynnar, wnaeth cyfres deledu ditectif/Samurai fach o Japan cyrraedd Awstralia lle daeth yn llwyddiant cwlt. Yn Japan teitl y gyfres oedd ‘Ronin Suiri Tentai’ (Ronin Rhesymu Casgliadol) ond yn Awstralia mae’n cael ei hadnabod fel ‘Top Knot Detective’. Mae’r ffug-ddogfen hon yn adrodd hanes y cyfarwyddwr Takashi Tawagoto, oedd ddim yn gallu actio, paffio na ysgrifennu, ond drwy werthu allan roedd ganddo’r arian i wneud ei hun yn seren – neu dyna y credodd.

Wedi’i chreu gan Aaron McCann a Dominic Pearce fel atgof o’r ffilmiau a rhaglenni teledu oedd yn cael eu dangos ar deledu Awstralia’r 90au, mae Top Knot Detective yn ffug-ddogfen enwogrwydd ac anffawd sy’n argyhoeddi’n llwyr. Cadwch lygaid allan am wynebau cyfarwydd â jôc cau sy’n hollol addas i’r ŵyl, doedden ni ddim yn meddwl bod unrhyw ffordd well i gau Abertoir blwyddyn yma na gyda’r ffilm hollol ddifyr hon.

K2_TRAILER

  • Ffilmiau
    Edrychwch am rêl gnawd yr wyl; y ffilmiau sy'n dangos ar gyfer penblwydd Abertoir yn ddeg!
  • Digwyddiadau
    Mae digwyddiadau arbennig iawn gyda ni - triwch peidio sgrechian!
  • Gwesteion
    Gwelwch pwy fydd yn ymuno gyda ni fel gwesteion arbennig ein penblwydd!
  • Cystadleuaeth Ffilmiau Byrion
    Darganfyddwch pwy sy'n cystadlu am y Wobr Abertoir a'r Melies D'Argent!